Sioe parlwr: sioe un dyn llawn hwyl a syndod. Fel arfer yn perfformio mewn lolfa; clwb; neuadd bentref neu stafell gynhadledd.
Sioe hud agos - syniad hollol newydd! Perffaith ar gyfer cwmniau neu priodasau. Mae gen i stondin lle mae gwestai yn dod ataf er mwyn cael eu swyno a'u synnu gyda hud agos.
Dros 30 mlynedd o berfformio - Llundain, Paris ac Efrog Newydd - ac yn Nant Gwrtheyrn ers 2001. Wedi perfformio i enwogion a chwmniau rhyngwladol, ac yr un mor hapus yn perfformio yn fy nghynefin o gwmpas Cymru.